Newyddion

Ynysgedwyn ar Hyd y Blynyddoedd

Nos Fercher 14 Gorffennaf, roedd neuadd Ysgol Ynysgedwyn Ystradgynlais yn llawn dop o fyfyrwyr blwyddyn 6 a’u teuluoedd oedd yn cael parti ffarwelio a’r ysgol.

Fel rhan o’r dathliadau, cafwyd y dangosiad cyhoeddus cyntaf o’r ffilm Ynysgedwyn ar Hyd y Blynyddoedd. Ffilmiwyd y ffilm nol ym mis Mawrth eleni gan ddisgyblion blwyddyn 6 yr ysgol mewn cyfres o weithdai a gafodd eu trefnu gan Fenter Brycheiniog a Maesyfed mewn partneriaeth â Spill Media. Mae’r ffilm yn ddathliad o hanes Ysgol Ynysgedwyn ar hyd y blynyddoedd ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.

Bwriad y gweithdai oedd rhoi cyfle i’r disgyblion gael cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol tu fas i’r dosbarth a dywedodd Euros Richards, cydlynydd y Fenter:

“Mae’r plant wedi mwynhau’r gweithdai yma’n fawr iawn ac mae’r ffilm yn werth ei gwylio! Bydd llawer mwy o gyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn y dyfodol. Bydd uwch-adran newydd yn cael ei sefydlu yn Ystradgynlais ym mis Medi ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r bobl ifanc er mwyn cynnal rhaglen o weithgareddau yn y Gymraeg ar eu cyfer.”

Cliciwch fan hyn i weld y ffilm.

Clwb Gwyliau Y Gorlan

Cofiwch, os oes gyda chi blant ac yr ydych yn ardal Aberhonddu, mae Clwb Gwyliau Y Gorlan yn cael ei gynnal yn Ysgol y Bannau rhwng 26 a 30 Gorffennaf. Mae manylion am y clwb i’w gael nes ymlaen yn y rhifyn hwn o’r cylchlythyr.

Mae'r clwb gwyliau yma'n ddatblygiad pwysig wrth i'r ddarpariaeth Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc yn ardal Aberhonddu gynyddu. Yn dilyn llwyddiant cynllun peilot o gynnal clwb gwyliau Cymraeg yn Aberhonddu yn ystod haf 2009, mae hi'n braf gweld aelodau o'r gymuned leol yn mynd ati i ateb y galw a chynnal clwb gwyliau Cymraeg. Hoffai'r Fenter ddymuno pob llwyddiant iddynt.