Fforwm Sirol De Powys

Y Diweddaraf o'r Fforwm...

Ar 1 Hydref cynhaliwyd cyfarfod diweddaraf o fforwm sirol De Powys sy’n gasgliad o gyrff a mudiadau (ee Merched y Wawr, Yr Urdd, Mudiad Ysgolion Meithrin ac ati) sy’n gweithio yn y Gymraeg. Mae’r fforwm yn cwrdd bob 3 mis i drafod y datblygiadau diweddaraf ac i weld lle gallwn gyd-weithio.

 

Un o brif ddyletswyddau’r fforwm yw newyddu dogfen proffil iaith ar gyfer Brycheiniog a Maesyfed. Bwriad y ddogfen yma yw mapio sefyllfa bresennol yr iaith yn yr ardal ac i adrodd ar y defnydd o’r iaith o fewn cymunedau lleol. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw grŵp neu fudiad sy’n cwrdd yn rheolaidd ac yn cynnal eu gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg, byddem yn ddiolchgar iawn i glywed amdanynt.

 

Cofiwch, os oes unrhyw syniadau gyda chi i ddatblygu prosiectau neu weithgareddau Cymraeg, cysylltwch â ni i weld os allwn fod o help i chi. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chymunedau lleol ac i hwyluso a gwireddu syniadau er mwyn cynyddu’r cyfleoedd a’r defnydd o’r Gymraeg yn lleol.