Ieuenctid
Bwrlwm y Bannau 2010
Mae nifer o weithgareddau Bwrlwm y Bannau 2010 wedi eu hanelu at bobl ifanc.
Ar y nos Wener, bydd aelodau o Glybiau Ffermwyr Ifanc lleol yn llwyfannu perfformiad o’r ddrama lwyddiannus ‘Golau’r Epynt’ a enillodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth ddrama genedlaethol y Ffermwyr Ifanc.
Yn dilyn y ddrama, gallwch fynd draw i’r Clarence i fwynhau disgo Cymraeg. Mae mynediad i’r disgo yn rhad ac am ddim!
Ar y nos Sadwrn, mi fydd yr ŵyl yn cyrraedd uchafbwynt gyda gig mawr yn y Clarence yn Aberhonddu. Bydd hogiau Blaenau Ffestiniog Gwibdaith Hen Fran yn ymddangos gyda Y Beti Galws, Tremolo a’r popsters lleol Y Mystics. Mae mynediad i’r gig hefyd yn rhad ac am ddim felly dewch draw i Aberhonddu i fwynhau’r gorau o ddiwylliant cyfoes Cymraeg!




